OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2013 Rhif 2090 (Cy. 205) (C. 87)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Mesur Addysg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 2) 2013
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Dyma’r ail orchymyn cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Fesur Addysg (Cymru) 2011 (“Mesur 2011”). Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 22 Awst 2013 Bennod 2 o Ran 2 o Fesur 2011. Mae Pennod 2 o Ran 2 o Fesur 2011 yn gwneud darpariaeth ynghylch hyfforddiant i lywodraethwyr a chlercod a darparu clerc i gorff llywodraethu ysgol.
NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Y Ddarpariaeth |
Y Dyddiad Cychwyn |
Rhif O.S. |
Adrannau 1 i 9 |
16 Tachwedd 2012 |
2012/2656 (Cy.288) (C.106) |
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2013 Rhif 2090 (Cy. 205) (C. 87)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Mesur Addysg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 2) 2013
Gwnaed 22 Awst 2013
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 32 o Fesur Addysg (Cymru) 2011([1]), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a chymhwyso
1.—(1)(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur
Addysg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 2) 2013.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Cychwyn
2. Daw adrannau 22 i 25 o Fesur Addysg (Cymru) 2011 i rym ar 22 Awst 2013.
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
22 Awst 2013